Ivor Novello | |
---|---|
Ffugenw | Ivor Novello |
Ganwyd | David Ivor Davies 15 Ionawr 1893 Caerdydd |
Bu farw | 6 Mawrth 1951 o coronary thrombosis Westminster |
Man preswyl | Littlewick Green |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, cyfansoddwr, llenor, sgriptiwr, cyfansoddwr caneuon, actor llwyfan, actor ffilm, canwr, cyfarwyddwr ffilm, libretydd |
Adnabyddus am | Glamorous Night, The Bohemian Girl |
Arddull | sioe gerdd, opereta, neuadd gerddoriaeth |
Mam | Clara Novello Davies |
Priod | Robert Andrews |
Partner | Robert Andrews |
Difyrrwr, dramodydd ac actor o Gymru oedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951). Roedd yn fab i David Davies a "Madame" Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.
Cyfansoddodd Novello y gân enwog, "Keep the Home Fires Burning" yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.
Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiodd arno'n fawr. Roedd Novello yn ddyn hoyw agored a hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais.[1] Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green, Berkshire.
Mae cerflun ohono ym Mae Caerdydd, sydd yn rhestru rhai o'i ganeuon enwocaf.